User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 20
Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adroddiad mis 20
Prosiectau a gynhelir[edit]
Nodyn: Ar wyliau blynyddol rhwng Awst 19 – Medi 2
Metrics[edit]
Cyfrifon a grëwyd[edit]
Ystadegau delweddau[edit]
- 0 delwedd wedi llwytho i Gomin (weler Casgliadau digidol i’w rhyddhau). Gallwch ddylyn y delweddau trwy’r Category:Images uploaded as part of NLW - WMUK collaboration
- 0 delwedd wedi llwytho i Gomin (weler Casgliadau digidol i’w rhyddhau). Gallwch ddylyn y delweddau trwy’r Category:Images uploaded as part of NLW - WMUK collaboration
- BaGLAMa (Nifer o hits ar erthyglau Wikipedia yn cynnwys delweddau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru)
2015
- Chwefror- Ymwelwyr - 51,330
- Mawrth- Ymwelwyr - 70,996
- Ebrill- Ymwelwyr - 186,973
- Mai- Ymwelwyr - 178,917
- Mehefin- Ymwelwyr - 697,704
- Gorffennaf- Ymwelwyr - 2,306,570
- Awst- Ymwelwyr - 2,437,248
- Medi- Ymwelwyr - 4,075,081
- Hydref- Ymwelwyr - 4,698,284
- Tachwedd- Ymwelwyr - 6,588,820
- Rhagfyr- Ymwelwyr - 11,644,987
2016
- Ionawr- Ymwelwyr - 11,687,926
- Chwefror- Ymwelwyr - 12,632,817
- Mawrth- Ymwelwyr - 13,812,774
- Ebrill- Ymwelwyr - 13,912,372
- Mai - Ymwelwyr - 14,561,695
- Mehefin- Ymwelwyr - 14,641,717
- Gorffennaf- Ymwelwyr- 13,337,491
- Awst - Ymwelwyr- 12,581,735
- GLAMorous (Canran cyffredin o ffeiliau a ddefnyddir ar brosiectau Wikimedia)
- Mawrth 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 7.29%
- Ebrill 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 10.2%
- Mai 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.7%
- Mehefin 22 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.61%
- Gorffennaf 17 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.21%
- Awst 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 6.34%
- Medi 17 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 7.62%
- Hydref 20 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.43%
- Tachwedd 18 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 12.58%
- Rhagfyr 17 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 17.29%
- Ionawr 18 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 12.89%
- Chwefror 24 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 13.59%
- Mawrth 18 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 14.21%
- Ebrill 25 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 28.38%
- Mai 18 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 37.37%
- Mehefin 17 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 42.01%
- Gorffennaf 21 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 50.02%
- Awst 17 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 50.13%
- Medi 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 50.69%
Amcanion a Deilliannau[edit]
Estyn Allan[edit]
Yr amcan yw cynnal o leiaf 4 digwyddiad neu weithdai cyhoeddus (Golygothonau) yn ystod y cyfnod preswyl (7 mis). Bydd pob digwyddiad yn targedu cynulleidfa a phwnc penodol.
Canlyniadau mis 20:
- Wedi trefni efo pennaeth Uned y Geiriadur yn Brifysgol Aberystwyth, I wneud cyflwyniad awr ginio i staff am y budd o greu data yn Gymraeg ar Wikidata, gyda'r bwriad i gynnal digwyddiad cyfieithu yn yr Hydref
- Gwahoddiad wedi mynd allan i’r Comisiwn Brenhinol I gynnal Golygathon Wikipedia efo eu Staff. Heb gael ymateb eto.
- Wedi cyflwyno cais i siarad yn Gynhadledd 2017 – Gorffennol Digidol am weithio gyda Wikimedia a chynnwys/data agored
- Bagloriaeth Cymru – Roedd y cais y cynnwys her Wicipedia fel rhan o’r cwrs Bagloriaeth I fod i gael sylw yn cyfarfod o’r bwrdd CBAC ym mis Medi ond mae’r cyfarfod wedi eu gohirio tan Hydref, felly mae pennaeth Addysg yn y llyfrgell wedi gofyn a oes modd gyflymu y cais. Ni’n aros am ymateb.
Addysg[edit]
Y nod yw datblygu model ar gyfer mynd a Wikipedia i mewn I Ysgolion a Phrifysgolion ac i gynnal 4 digwyddiad gyda'r sector addysg yn ystod y cyfnod preswylio (7 mis)
Canlyniadau mis 20:
- Rydw i wedi bod yn gweithio gyda thîm addysg y LlGC i ddatblygu modiwl Wicipedia ar gyfer y gymhwyster Bagloriaeth Cymru a fyddai'n rhoi templed i fyfyrwyr ar draws Cymru ar gyfer trefnu a rhedeg Golygothonau Wicipedia fel rhan o'r cymhwyster. Bydd yr her yn eistedd ochr yn ochr â nifer o wahanol her a bydd myfyrwyr yn ddewis un i gwblhau pob blwyddyn. Bydd LlGC yn rhoi cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â'r her. Mae'r cynnig wedi gyflwyno i WJEC (y corff Arholi) a byddwn yn ystiried yn fuan.
- Mae trafodaethau gyda staff adran yr Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru yn arwain adran i drafodaethau diddorol am y posibilrwydd o ddarparu hyfforddiant Wicipedia ar gyfer athrawon Ysgolion Uwchradd drwy gonsortia hyfforddi athrawon.
- Mae trafodaethau ar y gweill gyda thîm Cymru Dros Heddwch am gynnal digwyddiadau Wicipedia gyda phlant yn ogledd Cymru yn yr Hydref.
Prosiectau efo Gwirfoddolwyr[edit]
Canlyniadau mis 20:
- Mae'r Ysgolhaig Preswyl Wikidata Wedi cwblhau’r gwaith i greu Wikidata manwl ar gyfer 5000 o ddelweddau dirwedd Cymru sydd eisoes a’r Wiki Commons . Gallwch weld mwy yma
- Mae'r Ysgolhaig Preswyl Wikidata yn gweithio gyda’r Wikipediawr Preswyl I ysgrifennu Blog sydd yn crynhoi’r prosiect ac yn dangos enghreifftiau o’r pŵer y data. Mae’r Wikimedia Foundation wedi dangos diddordeb yn cyhoeddi’r blog.
- Mae'r Ysgolhaig Preswyl Wikidata wedi cytuno i weithio gyda LLGC ar brosiect arall sydd yn cynnwys gweithio i wella data ar y Bywgraffiadur am gyhoeddwyr Cymraeg
- Mae 3 gwirfoddolwyr nawr yn gweithio ar brosiect y Bywgraffiadur, gan greu erthyglau ‘stub’ gan ddefnyddio cofnodion o’r Bywgraffiadur . Mae 139 o erthyglau bychan wedi creu hyd at hyn.
- Mae Wikidata cychwynnol wedi eu creu ar gyfer 550 o longau 19eg Ganrif o Aberystwyth fel llwyfan i lansio rhagor o brosiectau Wikidata efo gwirfoddolwyr. Mae prosiect i gael gwirfoddolwyr i ychwanegu i’r data yn cychwyn yn yr Hydref. Mae Gwirfoddolwr o’r Archifdy sir wedi cytuno rhannu data mae fe wedi casglu ar y llongau. Bydd hwn yn cael eu hychwanegu i’r Wikidata fel rhan o’r prosiect. Mae'r prosiect yma yn annelu at ddangos y budd o ddefnyddio Wikidata I gysylltu casgliadau o wahanol sefydliadau ar fwyn creu data pwerus ac agored.
Gellir cael mwy o wybodaeth am brosiectau a ddelir gyda'r tîm wirfoddolwyr LlGC yma
Digwyddiadau Cynlluniedig[edit]
- Medi 27 – Sgwrs efo staff y Geiriadur UWA am Cymraeg ar Wikidata/Wikipedia
- Hydref 6-7 – Mynychwr yn y 4ydd Cynhadledd Rhwngwladol ar Data Agored
- Hydref 19 – Siarad am rannu casgliadau digidol efo Wikimedia yn Gynhadledd Museums+Tech yn y Wellcome Collection, Llundain
- Hydref 22 - Gweithgareddau Wici ar gyfer Cynhadledd ysgolion Cymru Dros Heddwch, Sir Caernarfon
- Hydref/Geuaf – Digwyddiad cyfiethu Wikidata
Gweithdai a digwyddiadau Staff[edit]
Yr amcan yw cysylltu â staff a hyrwyddo cysylltiadau digidol trwy wahodd staff i ddysgu mwy am Wicipedia a sut i olygu.
Canlyniadau mis 18:
- Dim i adrodd
Digwyddiadau sydd wedi trefni
Dim i adrodd
Casgliadau digidol i’w rhyddhau[edit]
Yr amcan yw nodi a rhyddhau archifau digidol i Gomin Wikimedia (Wiki-commons), yn bennaf i'w defnyddio mewn erthyglau Wicipedia, ym mhob iaith.
Canlyniadau mis 17:
- Dim yw adrodd
Casgliadau nodwyd ar gyfer llwytho i fyny yn y dyfodol:
- Mae cais newydd wedi paratoi ar gyfer ryddhau nifer fach o ddelweddau di hawlfraint o wefan y Llyfrgell trwy Wikimedia Commons. Bydd y cais yn cael eu cyflwyno i reolwyr y LLGC ar Fedi 20th.
- Gweithiau Celf mewn Ffrâm - tua 600 o ddelweddau (angen ‘Ingest’ cyntaf). Sef pob delwedd cyn 1880 sydd wedi eu rhannu gan y Llyfrgell ar gyfer y prosiect ‘BBC Your Painting’ gan y the Public Catalogue Foundation.
- Archif Portreadau Cymraeg - 5,000 o ddelweddau (angen ‘Ingest’ cyntaf). Hyn yw’r casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig gan gynnwys enghreifftiau o waith mewn ffrâm, ysgythriadau a ffotograffau. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau o'r oesoedd canol i’r cyfnod modern. ‘’'(Erbyn hyn mae’r gwaith o baratoi’r casgliad yma ar gyfer llwytho i fyny wedi cael blaenoriaeth yn y LlGC, a'r gobaith yw y gallwn lwytho cyn diwedd y flwyddyn)'
Adeiladu pontydd[edit]
Yr amcan yw peri newidiadau adeiladol i: ddiwylliant, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau’r LLGC er mwyn creu perthynas gynaliadwy gyda Wikimedia UK a chymuned Wicipedia ac i hyrwyddo ethos gwybodaeth agored.
Canlyniadau mis 18:
- * Y Bywgraffiadur Cymreig – Mae cais am gyllid yn cael ei ystyried gan y llyfrgell i gontractio datblygwr trydydd parti i greu rhyngwyneb / llinell amser pwrpasol i ddelweddu ac archwilio’r Bywgraffiadur Cymreig. Byddai'r rhyngwyneb yn cael ei bweru gan Wikidata a delweddau o Wiki Commons ac y byddai'n cysylltu â Bywgraffiadur Cymreig a chynnwys Wikipedia. Byddai hyn yn cadarnhau ymrwymiad y llyfrgell i gyfrannu at brosiectau Wikimedia a gwneud defnydd o wasanaethau Wikimedia a chynnwys i ddatblygu ei seilwaith arloesol ar-lein arloesol.
- WikiSource - Mae trafodaethau gyda rheolwyr LlGC am ryddhau testun digidol di hawlfraint i Wikisource wedi arwain at y penderfyniad i ymchwilio i'r posibilrwydd o lanlwytho deitl prawf o’r casgliad Cylchgronau Gymraeg fel rhan o'r lansiad gwefan Cylchgronau newydd, a drefnwyd ar gyfer hwyr 2016/2017
- * Trafodaethau gyda Tom Pert o’r Comisiwn Brenhinol am rannu setiau data drwy Wikidata, fydd yn ategu'r data LlGC yn Wikidata.
- * LlGC bellach wedi embedio llwytho i Wicipedia yn y broses o ddewis a dethol ar gyfer digido.
- * Mae Dr Dafydd Tudur a minnau wedi cael gwahoddiad i gyfrannu pennod i lyfr ar Fynediad Agored, gan son am y preswyliad Wikipedia fel astudiaeth achos. Mae'r prosiect yn cael ei reoli gan Fred Saunderson NLS. Mae’r gwaith wedi dechrau a bydd drafft yn mynd I Fred Saunderson cyn Medi 30.
- Mae Dr Dafydd Tudur (pennaeth Mynediad Digidol) a fi wedi dechrau ysgrifennu achos busnes gydag achos cryf dros fabwysiadu dull mynediad agored tebyg i'r Rijksmuseum. Ar ôl ei gwblhau bydd y ddogfen ar gael i Wikimedia UK a'u cyflwyno i'r tîm rheoli’r Llyfrgell Genedlaethol