Jump to content

User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 4

From Wikipedia, the free encyclopedia

Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adroddiad mis 4

Prosiectau a gynhelir

[edit]

Metrics

[edit]

Cyfrifon a grëwyd

[edit]

7 Cyfrif Newydd (4 fenyw) wedi creu fel rhan o Olygathon cyhoeddus ar y RhBC (Gallipoli) yn y Llyfrgell Genedlaethol. 23 Ebrill.

4 Cyfrif Newydd (3 fenyw) wedi creu fel rhan o Olygathon ‘menywod mewn gwyddoniaeth’ (Siarter Athena Swan) efo’r Coleg Meddygol yn Brifysgol Abertawe. 18 Ebrill.

Ystadegau delweddau

[edit]

7 delwedd wedi llwytho i Gomin (weler isod). Gallwch ddylyn y delweddau trwy’r Category:Images uploaded as part of NLW - WMUK collaboration


28 delwedd wedi llwytho i Gomin (weler isod) a briodolir i ‘Casgliad y Werin’’ fel rhan o brosiect peilot. Gallwch ddylyn y delweddau trwy’r Category:Uploaded by Peoples Collection Wales


BaGLAMa (Nifer o hits ar erthyglau Wikipedia yn cynnwys delweddau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • Chwefror- Ymwelwyr - 51,330
  • Mawrth- Ymwelwyr - 70,996
  • Ebrill- Ymwelwyr - 186,973


GLAMorous (Canran cyffredin o ffeiliau a ddefnyddir ar brosiectau Wikimedia)
  • Mawrth 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 7.29%
  • Ebrill 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 10.2%
  • Mai 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.7%


Amcanion a Deilliannau

[edit]

Estyn Allan

[edit]

Yr amcan yw cynnal o leiaf 6 digwyddiad neu weithdai cyhoeddus (Golygathonau) yn ystod y cyfnod preswyl (12 mis). Bydd pob digwyddiad yn targedu cynulleidfa a phwnc penodol. Yn seiliedig ar drafodaethau rhagarweiniol dyma restr o ddigwyddiadau arfaethedig (un wedi ei gadarnhau a’i gyhoeddi).

Canlyniadau mis 4:


  • Mynychodd ’’’12’’’unigolyn y Golygathon Gallipoli a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 23 Ebrill. Crëwyd 3 erthygl newydd gyda 8 arall wedi eu gwella’n llwyr. Mae rhagor o fanylion i'w cael ar y dudalen digwyddiad.
  • Wedi ymweld â Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac mae rheolwr digwyddiadau wedi eu penodi i gynorthwyo efo’r trefniadau ar gyfer a golygathon cwpan y byd Rygbi ar 7 Medi. Hefyd mae’r Undeb Rygbi Cymraeg wedi cytuno helpu hyrwyddo’r digwyddiad.
  • Wedi mynychu cynhadledd CILIP Cymru yn Abertawe i greu cysylltiadau ac i hyrwyddo’r gwaith mae’r Llyfrgell yn gwneud efo Wikipedia. Roedd phamffledi a gwybodaeth am y prosiect ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol.
  • Sgyrsiau ar y gweill gyda Archifdy Sir Gwent, i gynnal golygathon hanes lleol yn ddiweddarach eleni.
  • Sgyrsiau ar y gweill gyda’r tîm Women, History and Law yn Brifysgol Abertawe, i gynnal golygathon Hywel Dda (Cyfraith Cymraeg) yn y Llyfrgell Genedlaethol yn fis Medi/Hyd.
  • Gwirfoddolwyr Wikidata. Mae rhai aelodau o’r tîm wirfoddoli dal yn gweithio ar y gwaith o ddefnyddio'r offeryn mix-n-match i ychwanegu gwybodaeth o’r Bywgraffiadur Ar-lein i Wikidata ac yn derbyn cymorth yn ôl yr angen.
  • Gwirfoddolwyr Wikipedia. Mae yma 3-4 o’r tîm wirfoddoli wedi dangos diddordeb yn golygu Wikipedia ac yn cael sesiynau hyfforddiant wythnosol.

Digwyddiadau Cynlluniedig

[edit]
  • Golygathon cyfreithiau Hywel Dda (25 Medi yw cadarnhau) - Digwyddiad i ganolbwyntio ar wella cynnwys sy'n ymwneud â chyfreithiau Hywel Dda ac agweddau o’r gymdeithas yng Nghymru o dan y Gyfraith Gymreig (ee hawliau Merched). Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Brifysgol Abertawe
  • Golygathon a Rhannu Y Wladfa (Mehefin 19 2015) - yn dathlu 150 mlynedd ers ymsefydlid y gwladychwyr Cymreig cyntaf ym Mhatagonia, bydd y golygathon yn cael ei drefnu efo staff Casgliad y Werin sy'n rhedeg rhaglen o ddigwyddiadau i nodi’r dathliad. Bydd y mynychwyr yn cael eu gwahodd i ddod a deunydd / gwrthrychau perthnasol i sganio gan Gasgliad y Werin Cymru, gyda'r opsiwn hefyd i rannu gyda Wikimedia Commons. Mae hwn yn ddigwyddiad dreial wedi'i anelu at adeiladu cysylltiadau â Chasgliad y Werin Cymru, a mesur parodrwydd y cyhoedd i rannu eu casgliadau preifat ar drwydded agored.
  • Golygathon Rhyfel Byd Cyntaf (Haf 2015) - ‘’’Dim symud wedi bod gan yr amgueddfa'r mis yma’’’ Gan gydweithio â'r cyfranwyr o'r Golygathon cyntaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf bydd y ffocws ar y cynnwys yn ymwneud â'r Gymru yn y rhyfel. Y falle yw cynnal yn The Regimental Museum of The Royal Welsh yn Aberhonddu.
  • Golygathon Cwpan y Byd Rygbi - (Medi 9fed 2015) - I ddathlu Cwpan y Byd Rygbi byddwn yn gofyn i Wicipediwr a selogion chwaraeon i wella cynnwys am y gêm, y chwaraewyr a gemau enwog. I'w gynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
  • Bywgraffiadur Ar-lein - prosiect Wiki-data/ Golygu Wikipedia (Gweithdy Wythnosol) -Gweithdy hyblyg gyda’r bwriad o gefnogi aelodau o’r tîm gorfodol i gyfrannu at Wikipedia mewn gwahanol ffyrdd.

Gweithdai a digwyddiadau Staff

[edit]

Yr amcan yw cysylltu â staff a hyrwyddo cysylltiadau digidol trwy wahodd staff i ddysgu mwy am Wicipedia a sut i olygu.

Canlyniadau mis 4:

  • Dim digwyddiadau. Mae’r pwyslais y mis yma wedi bod ar gynnal digwyddiadau cyhoeddus a phrofi’r GLAM Wiki Toolset

Digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio:

  • Picipedia. (Haf 2015) . Bydd Golygathon staff i ychwanegu lluniau at erthyglau a restrwyd fel rhai sydd Angen Lluniau Bydd y digwyddiad yma yn cael i drefni yn ddylyn yr Upload o Gasgliad Tirlun Cymru I Wici Comin.
  • Golygathon Staff (Hydref 2015). Bydd pob aelod o staff sy'n cymryd rhan yn hyfforddiant yn cael eu hannog i fynychu Golygathon, i olygu pynciau o'u dewis. Bydd y digwyddiad yn dilyn y gweithdai hyfforddiant cychwynnol.

Casgliadau digidol i’w rhyddhau

[edit]

Yr amcan yw nodi a rhyddhau archifau digidol i Gomin Wicimedia (Wiki-Commons), yn bennaf i'w defnyddio mewn erthyglau Wicipedia, ym mhob iaith.

Canlyniadau mis 4: Mae'r delweddau ‘’’Safon Uchel’’’ canlynol o Fap Degwm Casnewydd wedi llwytho i fyny i Gomin

Mae'r ‘’’19’’’ delwedd ‘yma wedi llwytho i fyny i Gomin o dan faner Casgliad y Werin (Weler Adeiladu pontydd)

Casgliadau nodwyd ar gyfer llwytho i fyny yn y dyfodol:

Mae Rhestr o gasgliadau a nodwyd ar gyfer llwytho i fyny wedi cael ei gymeradwyo gan reolwyr y Llyfrgell. Mae tua 20,000 o ddelweddau wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer eu rhyddhau. Cytunwyd i ddefnyddio'r Glam Wiki toolset i lwytho casgliadau pellach. Bydd profion yn dechrau ym mis Ebrill.

  • Casgliad Tirlun Cymru - 5000 o ddelweddau. Enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys golygfeydd o drefi, cestyll, adeiladau eglwysig, maenordai, henebion, neu adeiladweithiau arloesol fel y bont dros y Fenai neu ym Mhontypridd. Mae'r rhan fwyaf o’r delweddau yn dyddio o c.1750 i tua 1850
  • Casgliad P.B. ABERY - 2000 o ddelweddau. Delweddau o’r 20fed ganrif gynnar yn bennaf o olygfeydd o ardal Sir Frycheiniog / Sir Faesyfed.
  • Casgliad Martin Ridley - 800 o ddelweddau (angen ‘Ingest’ cyntaf). Yn bennaf Strydoedd a diwydiant De Cymru 19eg/20fed ganrif.
  • Archif Portreadau Cymraeg - 15,000 o ddelweddau (angen ‘Ingest’ cyntaf). Hyn yw’r casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig gan gynnwys enghreifftiau o waith mewn ffrâm, ysgythriadau a ffotograffau. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau o'r oesoedd canol i’r cyfnod modern. (Yn ôl y tîm digido LlGC, Mae’n annhebygol bydd casgliad yma yn barod ar gyfer llwytho i fyny yn ystod cyfnod y preswyliad)
  • Mae cais ffurfiol wedi ei wneud i ryddhau swp sampl o dudalennau o hen lyfrau prin i gomin.
  • Mae cais ffurfiol wedi ei wneud i ryddhau sampl o ddelweddau / tudalennau o lawysgrifau canoloesol i gomin.

Adeiladu pontydd

[edit]

Yr amcan yw peri newidiadau adeiladol i: ddiwylliant, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau’r LLGC er mwyn creu perthynas gynaliadwy gyda Wikimedia UK a chymuned Wicipedia ac i hyrwyddo ethos gwybodaeth agored.

Canlyniadau mis 4:

  • Mae'r Rheolwyr '’Casgliad y Werin Cymru’' dal yn cefnogi newid eu polisi ac i geisio symid o’r defnydd o'r drwydded Archifau Creadigol o blaid trwydded CC anfasnachol, gyda'r opsiwn i bobl hefyd ddewis trwydded fasnachol . Yn y digwyddiad Patagonia ar 19 Mehefin, bydd Casgliad y Werin yn cynnig trwydded CC.BY.SA am y tro cyntaf i'w defnyddwyr. Mae detholiad o ddelweddau perthnasol o wefan Casgliad y Werin (ond sy'n eiddo i LlGC) wedi cael eu rhyddhau i Commons dan faner Casgliad y Werin fel y gallant ddechrau mesur effaith trwyddedu eu delweddau yn agored a Rhannu efo Wikimedia.
  • Polisi - Ers yr ailstrwythuro diweddar mae’r swydd y Wicipediwr Preswyl yn eistedd yn yr adran Mynediad Digidol sydd newydd ei ffurfio. Mae strwythur a chynllun gweithredu'r adran hon yn dal i gael ei sefydlu ond mae bron yn sicr y bydd yn disgyn ar yr adran hon i weithredu newidiadau i bolisi a fydd yn hyrwyddo mynediad agored a rhannu arferol o gasgliadau â Wicipedia a llwyfannau cyhoeddus eraill.
  • Arddangosfeydd - Mae trafodaethau'n parhau ynghylch y defnydd o godau QRPedia yn arddangosfa Philip Jones Griffith sydd ar y gweill. Ceir ymrwymiad cryf i'r syniad a bydd y codau yn cael ei ddefnyddio i ehangu ar wybodaeth ar baneli gwybodaeth drwy gysylltu at erthyglau perthnasol. Bydd y gwaith yma wedi gorffen yn ystod y mis nesaf.
  • 'Dyfynnu ar Wicipedia' - bydd y botwm 'Dyfynnu ar Wicipedia' yn cael ei hychwanegu at y wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein fel rhan o ail-lansio’r wefan ym mis Mai / Mehefin gyda'r disgwyliad y bydd yn cael ei hychwanegu at ein gwefannau eraill cyn gynted y bu’r adnoddau ar gael. Mae cyfnod o brofi'r gwefan newid wedi dechrau.