User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 5

From Wikipedia, the free encyclopedia

Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adroddiad mis 5

Prosiectau a gynhelir[edit]

Metrics[edit]

Cyfrifon a grëwyd[edit]

10 Cyfrif Newydd (5 fenyw) wedi creu fel rhan o ddigwyddiad Golygathon a Rhannu ‘Patagonia’ yn y Llyfrgell Genedlaethol. 19 Mehefin. Roedd 19 yn bresennol.

Ystadegau delweddau[edit]

  • Mae tua 400 o ddelweddau wedi eu rhoi yn ystod y digwyddiad Patagonia. Bydd y delweddau yn cael i lwytho i gomin a briodolir i ‘Casgliad y Werin’’ fel rhan o brosiect peilot. Gallwch ddylyn y delweddau trwy’r Category:Uploaded by Peoples Collection Wales


BaGLAMa (Nifer o hits ar erthyglau Wikipedia yn cynnwys delweddau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • Chwefror- Ymwelwyr - 51,330
  • Mawrth- Ymwelwyr - 70,996
  • Ebrill- Ymwelwyr - 186,973
  • Mai- Ymwelwyr - 178,917


GLAMorous (Canran cyffredin o ffeiliau a ddefnyddir ar brosiectau Wikimedia)
  • Mawrth 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 7.29%
  • Ebrill 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 10.2%
  • Mai 19 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.7%
  • Mehefin 22 - Canran o ddelweddau mewn defnydd ar Wici - 11.61%

Amcanion a Deilliannau[edit]

Estyn Allan[edit]

Yr amcan yw cynnal o leiaf 6 digwyddiad neu weithdai cyhoeddus (Golygathonau) yn ystod y cyfnod preswyl (12 mis). Bydd pob digwyddiad yn targedu cynulleidfa a phwnc penodol. Yn seiliedig ar drafodaethau rhagarweiniol dyma restr o ddigwyddiadau arfaethedig (un wedi ei gadarnhau a’i gyhoeddi).

Canlyniadau mis 5:

  • Mynychodd ’’’19’’’unigolyn y Golygathon Patagonia a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 19 Mehefin. Crëwyd 5 erthygl newydd gyda 6 arall wedi eu gwella’n llwyr. Cynhaliwyd y digwyddiad yma ar y cyd gyda Chasgliad y Werin Cymru. Buant nhw wrthi yn sganio tua 400 o ddelweddau a rhoddwyd yn ystod y diwrnod. Mae rhagor o fanylion i'w cael ar y dudalen digwyddiad.
* Ar 16eg Mehefin, darparais gymorth drwy e-bost ar gyfer Golygathon a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe. Mae nifer o olygyddion newydd wedi eu recriwtio ac maent yn bwriadu sefydlu grŵp Golygu rheolaidd. Yr wyf wedi cynnig fy nghefnogaeth ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau eraill yn y dyfodol.
* Mae trafodaethau ar y gweill gyda Archifdy Sir Gwent sydd wedi gofyn i gynnal golygathon hanes lleol ddiweddarach eleni. Mae dyddiad ar ddiwedd mis Medi yn cael ei drafod.
* Bydd y tîm ‘’Women, History and Law’ o Brifysgol Abertawe yn ymweld â'r LlGC am Olygathon ar y gyfraith Cymraeg ar yr 17eg o Hydref.
* Sgyrsiau cynnar ar y gweill i gynnal Golygathon gyda Sefydliad Merched y Wawr (W.I) Cymru fel rhan o'u dathliadau canmlwyddiant. Gynigir digwyddiad Wiki a chacennau cri neu Wiki and Welsh Cakes.
* Deialog hefyd wedi agor gyda phennaeth prosiect Cymru dros Heddwch, a hoffai gydweithio â Wicipedia fel rhan o'r prosiect, efallai drwy rodd o ddelweddau.
* Gwirfoddolwyr Wikidata. Mae rhai aelodau o’r tîm wirfoddoli dal yn gweithio ar y gwaith o ddefnyddio'r offeryn mix-n-match i ychwanegu gwybodaeth o’r Bywgraffiadur Ar-lein i Wikidata ac yn derbyn cymorth yn ôl yr angen.
* Gwirfoddolwyr Wikipedia. Mae yma 3-4 o’r tîm wirfoddoli wedi dangos diddordeb yn golygu Wikipedia ac yn cael sesiynau hyfforddiant wythnosol.

Digwyddiadau Cynlluniedig[edit]

  • Golygathon cyfraith Hywel Dda (17 Hydref) - Digwyddiad i ganolbwyntio ar wella cynnwys sy'n ymwneud â chyfreithiau Hywel Dda ac agweddau o’r gymdeithas yng Nghymru o dan y Gyfraith Gymreig (ee hawliau Merched). Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Brifysgol Abertawe
  • Golygathon Rhyfel Byd Cyntaf (Haf 2015) - ‘Dal yn trafod’’’ Gan gydweithio â'r cyfranwyr o'r Golygathon cyntaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf bydd y ffocws ar y cynnwys yn ymwneud â'r Gymru yn y rhyfel. Y falle yw cynnal yn The Regimental Museum of The Royal Welsh yn Aberhonddu.
  • Golygathon Cwpan y Byd Rygbi - (Medi 9fed 2015) - I ddathlu Cwpan y Byd Rygbi byddwn yn gofyn i Wicipediwr a selogion chwaraeon i wella cynnwys am y gêm, y chwaraewyr a gemau enwog. I'w gynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
  • Bywgraffiadur Ar-lein - prosiect Wiki-data/ Golygu Wikipedia (Gweithdy Wythnosol) -Gweithdy hyblyg gyda’r bwriad o gefnogi aelodau o’r tîm gorfodol i gyfrannu at Wikipedia mewn gwahanol ffyrdd.
  • Archifdy Sir Gwent, golygathon hanes lleol – (mis Medi) – Bydd y digwyddiad yma yn cael eu cynnal yng Ngwent a bydd y mynychwyr yn cynnwys gwirfoddolwyr a ffrindiau'r archifdy.

Gweithdai a digwyddiadau Staff[edit]

Yr amcan yw cysylltu â staff a hyrwyddo cysylltiadau digidol trwy wahodd staff i ddysgu mwy am Wicipedia a sut i olygu.

Canlyniadau mis 5:

  • Mae 1 aelod o staff yn cael eu hyfforddi i addysgu sgiliau golygu Wicipedia. Gall yr aelod o staff yna Cynorthwyo yn ystod digwyddiadau prysur. Mae hwn yn rhan o ymrwymiad gan y Llyfrgell i barhau i gynnal digwyddiadau cysylltiedig â Wicipedia ar ôl i’m cyfnod preswylio wedi dod i ben.

Digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio:

  • Picipedia. (Haf 2015) . Bydd Golygathon staff i ychwanegu lluniau at erthyglau a restrwyd fel rhai sydd Angen Lluniau Bydd y digwyddiad yma yn cael i drefni yn ddylyn yr Upload o Gasgliad Tirlun Cymru I Wici Comin.
  • Golygathon staff (Hydref 2015). Bydd pob aelod o staff sy'n cymryd rhan yn hyfforddiant yn cael eu hannog i fynychu Golygathon, i olygu pynciau o'u dewis. Bydd y digwyddiad yn dilyn y gweithdai hyfforddiant cychwynnol.

Casgliadau digidol i’w rhyddhau[edit]

Yr amcan yw nodi a rhyddhau archifau digidol i Gomin Wikimedia (Wiki-Commons), yn bennaf i'w defnyddio mewn erthyglau Wicipedia, ym mhob iaith.

Canlyniadau mis 5:

  • Yn dilyn fy nghais ffurfiol mae’r LlGC wedi cytuno i ryddhau sampl o ddelweddau o lawysgrifau canoloesol i'r parth cyhoeddus trwy Wicipedia er bod llawer, yn dechnegol, mewn hawlfraint tan 2039. Mae hyn yn dilyn symudiad tebyg yn ddiweddar gan y Llyfrgell Brydeinig sydd wedi rhyddhau 400 delwedd debyg drwy Wici Comin. Yn y lle cyntaf bydd LlGC yn rhyddhau 75 o ddelweddau. Llwythodd y 33 cyntaf y mis hwn, a gellir ei weld trwy; here. Mae’r delweddau yn cynnwys lluniau o frwydrau Alecsander Fawr a llun pwysig o Harri VIII fel plenty.

Casgliadau nodwyd ar gyfer llwytho i fyny yn y dyfodol:

Mae rhestr ddiwygiedig o gasgliadau a nodwyd ar gyfer llwytho i fyny wedi cael ei gymeradwyo gan y rheolwyr y Llyfrgell. Mae dros '140,000' 'delweddau' bellach wedi cael eu nodi ar gyfer Llwytho i diroedd comin Wikimedia. Cytunwyd i ddefnyddio'r toolset Glam Wiki i lwytho casgliadau pellach. Mae profi wedi bod yn llwyddiannus ac yr wyf yn awr yn aros ar y tîm systemau LlGC am y ffeil metadata terfynol er mwyn llwytho'r batsh cyntaf o 5000 o delweddau.

  • Casgliad Tirlun Cymru - 5000 o ddelweddau. Enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys golygfeydd o drefi, cestyll, adeiladau eglwysig, maenordai, henebion, neu adeiladweithiau arloesol fel y bont dros y Fenai neu ym Mhontypridd. Mae'r rhan fwyaf o’r delweddau yn dyddio o c.1750 i tua 1850
  • Geoff Charles Collection - 120,000 o ddelweddau a dynnwyd gan Geoff Charles tua.1940-70 yn bennaf yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Mae’r gwaith o lwytho i fyny'r casgliad hwn wedi ei osod allan fel targed yn gynllun gweithredu'r adran newydd Mynediad Digidol. Bydd hyn yn gofyn am gryn dipyn o waith gan dîm systemau LlGC a gall y gwaith o lwytho’r casgliad cyfan ymestyn tu hwnt i ddiwedd y Preswyliad yn Ionawr 2016
  • Casgliad P.B. ABERY - 2000 o ddelweddau. Delweddau o’r 20fed ganrif gynnar yn bennaf o olygfeydd o ardal Sir Frycheiniog / Sir Faesyfed.
  • Casgliad Martin Ridley - 800 o ddelweddau (angen ‘Ingest’ cyntaf). Yn bennaf Strydoedd a diwydiant De Cymru 19eg/20fed ganrif.
  • Archif Portreadau Cymraeg - 15,000 o ddelweddau (angen ‘Ingest’ cyntaf). Hyn yw’r casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig gan gynnwys enghreifftiau o waith mewn ffrâm, ysgythriadau a ffotograffau. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau o'r oesoedd canol i’r cyfnod modern. (Yn ôl y tîm digido LlGC, Mae’n annhebygol bydd casgliad yma yn barod ar gyfer llwytho i fyny yn ystod cyfnod y preswyliad)
* Mae cais ffurfiol wedi ei chymeradwyo i ryddhau swp sampl o dudalennau o hen lyfrau prin i gomin.
* Mae cais ffurfiol wedi ei chymeradwyo i ryddhau sampl o ddelweddau / tudalennau o lawysgrifau canoloesol i gomin.

Adeiladu pontydd[edit]

Yr amcan yw peri newidiadau adeiladol i: ddiwylliant, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau’r LLGC er mwyn creu perthynas gynaliadwy gyda Wikimedia UK a chymuned Wicipedia ac i hyrwyddo ethos gwybodaeth agored.

Canlyniadau mis 4:

  • Mae'r Rheolwyr '’Casgliad y Werin Cymru’' dal yn cefnogi newid eu polisi ac i geisio symid o’r defnydd o'r drwydded Archifau Creadigol o blaid trwydded CC anfasnachol, gyda'r opsiwn i bobl hefyd ddewis trwydded fasnachol . Yn y digwyddiad Patagonia ar 19 Mehefin, bydd Casgliad y Werin yn cynnig trwydded CC.BY.SA am y tro cyntaf i'w defnyddwyr. Mae detholiad o ddelweddau perthnasol o wefan Casgliad y Werin (ond sy'n eiddo i LlGC) wedi cael eu rhyddhau i Commons dan faner Casgliad y Werin fel y gallant ddechrau mesur effaith trwyddedu eu delweddau yn agored a Rhannu efo Wikimedia. Mae 400 o delweddau wedi eu rhoi fel rhan o'r cydweithio hwn. Cytunodd pob defnyddiwr i rannu’n agored â Wikimedia yn ogystal Casgliad y Werin Cymru. Mae hyn yn amlygu parodrwydd pobl i rannu ar drwydded agored ac yn cryfhau'r achos dros newid polisi derbyn delweddau Casgliad y Werin Cymru. Bydd adroddiad yn awr yn cael ei lunio a'i gyflwyno i Casgliad y Werin er mwyn gyflwyno canlyniadau'r prosiect cydweithredol yma.
  • Mae amserlen bellach wedi cael ei roi yn eu le ar gyfer integreiddio y gwaith o adnabod a llwytho i fyny gasgliadau digidol sy'n addas i Wikimedia Commons fel rhan o'r llif gwaith digido. Dylai'r canllawiau hyn gael eu rhoi ar waith erbyn 30 Medi
  • Arddangosfeydd - Mae codau QRpedia wedi cael eu dewis ar gyfer yr arddangosfa fawr ar Philip Jones Griffith. Bydd nifer o'r codau yn cael eu defnyddio i gynnig fwy o wybodaeth am bynciau ac eitemau a drafodwyd yn yr arddangosfa sy'n agor ar y 27ain o Fehefin.
  • 'Dyfynnu ar Wicipedia' - Mae’r botwm 'Dyfynnu ar Wicipedia' yn awry n cael i brofi cyn ail-lansiad gwefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Bydd y wefan yn cael eu lansio cy diwedd y mis hwn. Mae disgwyliad y bydd y botwm yn cael ei hychwanegu at ein gwefannau eraill cyn gynted y bu’r adnoddau ar gael.

Sylw yn y gwasg[edit]

Yn dilyn darganfyddiad o fersiwn anhysbys o'r Anthem Genedlaethol Cymru wrth baratoi adnoddau ar gyfer y Golygathon Y Wladfa, gaeth y darganfyddiad, y digwyddiad a fy mhreswyliad yn gyffredinol, sylw sylweddol yn y gwasg.

  • Cyfweliad 3 munud - BBC Radio Cymru (Cymraeg), 17 Mehefin 2015.
  • TV Interview - S4C. Newyddion 9, 17 Mehefin 2015.
  • Cyfweliad 3 munud - BBC Radio Wales, 18 June 2015.
  • Blog ar gyfer Cylchgrawn ar-lein BBC Cymru Fyw- (Cymraeg) BBC News, 18 Mehefin 2015.
  • Erthygl – Gwefan BBC News (Mid-Wales), 18 Mehefin 2015.
  • Erthygl – Wales Online Website ,19 June 2015.
  • Erthygl – Western Mail ,19 Mehefin 2015.