Jump to content

User:Ysgol pentrecelyn

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ysgol gynradd naturiol Gymraeg yw Ysgol Pentrecelyn wedi ei lleoli yn ardal wledig Pentrecelyn yn Nyffryn Clwyd. Daw plant yma o'r ardaloedd cyfagos (Llanelidan, Graigfechan, Pentrecelyn a Llandegla) i dderbyn eu haddysg.

Cymraeg yw cyfrwng y gwersi ac felly, trwy ddod i Ysgol Pentrecelyn, mae nifer helaeth o blant o gartrefi dwyieithog ac uniaith Saesneg, yn ogystal ag o gartrefi Cymraeg, wedi manteisio ar y cyfle i ehangu eu gorwelion a blasu cyfoeth dau ddiwylliant. Mae'r awyrgylch yn nodweddiadol o ysgol fechan wledig ble mae perthynas glos yn bodoli rhwng y staff, y plant a'u teuluoedd a'r gymuned leol. Addysgir pob plentyn yn unol â'i allu a'i anghenion a rhoddir cyfle i bawb i gymryd rhan yn yr holl weithgarddau, boed hynny o fewn oriau ysgol neu yn all-gyrsiol.

Caiff plant Pentrecelyn y cyfle i gymysgu gyda phlant o ysgolion cyfagos mewn gweithgareddau megis twrnamentau pêl-droed a phêl rwyd, gala nofio, mabolgampau ardal, cyrsiau preswyl yng Nglan Llyn a chystadlaethau'r Urdd. Trwy hyn, maent wedi dod yn ffrindiau â phlant o ysgolion eraill cyn iddynt symud i Ysgol Uwchradd Brynhyfryd. Nid yw gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn broblem yma gan fod gennym Glwb Brecwast llwyddiannus sy'n agor ei ddrysau am 7.40 y bore a gall y feithrinfa ddyddiol leol, Miri Meithrin, ddod i'r ysgol i nôl plant ar ddiwedd y diwrnod i fynd i'w clwb ar ôl ysgol nhw.

Rhennir yr ysgol yn ddau ddosbarth:

Dosbarth Babanod (Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2) - Mrs Delyth Jones a Mrs Eleri Perrin yw athrawon y dosbarth yma gyda help Mrs Nia Jones yn y boreau pan fo'r plant Meithrin i mewn. Gan nad oes Cylch Meithrin yn y dalgylch, caiff plant ddechrau yn Ysgol Pentrecelyn yn ystod y tymor wedi iddynt godi'n dair oed.

Dosbarth Cynradd - Mae Mrs Delyth Jones a Miss Delyth Roberts yn dysgu'r plant hynaf ar adegau gwahanol o'r wythnos ar gyfer gwahanol bynciau.